Wa Bala - Cefndir

English
Wa! Bala

Cefndir Wa! Bala

Y Cefndir.
Lleoliad gwreiddiol Wa Bala oedd ar lan Llyn Tegid. Yr adeg yma enw’r ŵyl oedd “Gŵyl boddi’r cynhaeaf” ie, trist iawn very sad.Yn perfformio oedd Brigyn, Pala, Papa gini, a Meinir Gwilym yn cloi ( er ei bod ond 14 oed ). Daeth pum cant o griw bywiog i fwynhau, a sylwodd y trefnwyr presennol fod yr hedyn wedi ei hau i ddigwyddiad tebyg yma yn y Bala. Yn yr ŵyl y flwyddyn yno death nifer o bobl i’r amlwg fel unigolion gweithgar a brwdfrydig iawn e.e. Er edrych ar ôl y Marci dros nos, gwirfoddolodd y criw canlynol i aros ar e’u traed drwy’r nos yn chwarae POKER, dyma enwau'r rhai euog: “Tony flush Swiss”,” John Snot y Ship”, “Dei John y trymp” a “John y joker Glyn” ( ni allech roi 3 gwaeth i edrych ar ôl marci sy’n cynnwys bâr ).

Wa Bala 2005.
Newidiwyd y lleoliad i’r Grin. Cafwyd Marci fawr 140tr wrth 40tr. Ar y nos Wener roedd Elin Fflur yn cloi'r noson. Ar y nos Sadwrn roedd, Brigyn, Pa Pa Gini, Frizbee, a Chelt yn cloi “uffern “o noson dda, tyrfa anhygoel, gyda’r bar yn gorfod rhedeg i nôl mwy o Lager am 10 o’r gloch !!! O feddwl pan holais y prif farman (Em Gelli) cyn y noson, os oedd ganddo ddigon o gwrw? Atebodd,”os werthwn ond ei hanner o Wa, mi fyddwn wedi neud yn dda iawn Wa ”.

Wa Bala 2006,
Fel y flwyddyn cynt, aeth y lleoliad yn rhu fach i’r dyrfa sydd yn dod i gefnogi Wa Bala erbyn hyn. Cytunwyd i symud Wa Bala i Faes parcio mwyaf Bala sef y Grin. Yn dilyn cryn drafodaeth ac anghydweld gydag adran “Building reg’s “ ynglyn ac angori’r Marci, daethom i ddealltwriaeth ac aethpwyd ati reit sydyn i gario 50 tunnell o bwysau o amgylch y Marci i’w dal i lawr,( rhag ofn yr hen wynt 80 milltir yr awr ne!), roedd hyn ar y dydd Iau cyn Wa Bala. Aeth popeth i’w le a’r awdurdodau yn fodlon ac yn fwy na dim roedd yr arolygon tywydd yn wych.

Bu’n benwythnos arbennig a phawb wedi mwynhau gydag enw Wa Bala ar wefusau pawb. Bu criw Radio Cymru yn darlledu o’r safle, gan gwrdd ag ambell gymeriad y fro, yn cynnwys oglau seilej llynedd.

“Sŵn dŵr yn sain daro.” Tynnu’r piss!

Cafodd chwech eu ffeinio am biso yn y stryd, Penderfynodd un creadur fynd at van fawr wen i biso, cafodd dipyn o sioc pan ddaeth P.C. allan o’r drws ôl, roedd yn piso ar olwyn ôl y van CCTV. Aeth heddwas at un arall i roi ffein o £30 iddo am biso, cariodd y cyfaill ymlaen i orffen piso i gael gwerth ei bres a chafodd ffein arall o £30!

Aethom ati i gyfri faint o bobl oedd wedi gwirfoddoli i helpu drwy'r penwythnos, yn cynnwys staff y bar a’r stiwardiaid roedd 108 wedi helpu i gynnal Wa Bala. Roedd yn ddifyr sylwi faint oedd yr Ŵyl wedi tyfu ers y Wa Bala cyntaf ar lan llyn Tegid e.e.

Wa Bala 2007.

Daeth bore Gwener ai law a mwy o law,roeddem fel trefnwyr awydd cynnal rafftio dwr gwyllt ar hyd y safe.Ar ol sawl galwad ffon cawsom afael ar draciau plastic i’w roi dan draed a diaw roedd pethau yn edrych yn well wan,ond roedd un pwll mawr o ddwr yn parhau ar gannol y safle,ac i ddatrys y broblem cawsom fenthyg fest Ger Bach i sugno’r dwr fynu (25 lt vest).

Fel addawodd Dafydd tywydd fe rafodd y glaw tua tri munud i ddau o gloch ac erbyn naw o’r gloch nos roedd y Marci yn dechrau llenwi i wrando ar Dainial Lloyd a mr pinc.

Cawsom ddipyn o drafferth gyda “Minti”yn trio lluchio ei drons at Meinir Gwilym ond wrth lwc fe sticiodd y trons yn to y Marci a maen dal yno ond wedi colli ei liw braidd. Gorffenodd Dafydd Iwan y noson mewn ffordd mae pawb wedi mynd i ddisgwyl,sef ar nodyn uchel yn llythrenol,Deni yma o hyd?

Dechreuodd Frizbi y nos Sadwrn  a dennwyd tyrfa dda yn gynnar i’r safle,diolch i Gwibdaith am lenwi bwlch wrth i fand gael trafferth efo’u ceffylau,erbyn hyn roedd y lle yn ferw.Wrth aros am y grwp nesa mi welsom minty yn dringo y polyn yn edrych am ei Y fronts on erbyn hyn mi  roedd gwibdaith wedi eu defnyddio fel banner iw can TRONS FYN NHAD EFO “SGID” YN Y CANOL!!
    
Band gwyddelig nesa a ,grwp gwerth chweil ond ar ol iddynt glywed a gweld ein seren nesaf : Elin Ffflyr roeddent i gyd eisiau dysgu Cymraeg.Roedd y Marci yn llawn a thyrfa mwyaf  Wa Bala erioed yn rocio i gerddoriaeth Radio Lux.

Daeth diwedd ar benwythnos gwych a welodd ei anhawsterau gysa’r tywydd ond y wobr o weld Gwyl lwydddiannus di drafferth arall. .Roedd yr Heddlu yn canmol pawb am eu ymddygiad ,(Ond cafodd Rhys Cablyd rybydd am gerdded ar y craciau yn y palmant).

Welwn ni chi yne eto leni wa

2004

2006
Tyrfa = 480.
Marci = 30tr -60tr
Staff Bâr = 8 (a dau chwil)
Stiwardiaid = 8 a 1/2
Costau = £2,300.00
Tyrfa = 4,300
Marci = 50tr -150tr
Staff Bar = 36.
Stiwardied = 45
Costau = £29,000.00

 

 

 

 

 

Valid CSS! 

 

Cefndir | Adborth | Cysylltu a Ni | Linciau Defnyddiol | ©2008 Wa! Bala
Dylunwyd gan Gwefannau Cymru